Looking for Local Business Support - Then Click Here

Prifysgol Morgannwg yn cynorthwyo Datblygu System Arloesol o Ddiogelu Cerbydau (VSS)

Y Cwmni

Cafodd Sentel Technology Ltd, mewn cydweithrediad â Heat & Combustion Ltd. y syniad am System Larwm Cerbydau drwy destun arloesol GSM ac roedd angen profion i gefnogi’r cysyniad ac angen datblygu prototeip i arddangos y system. Byddai hyn yn creu system larwm a fyddai’n rhoi gwybod i’r perchennog drwy ei ffôn symudol bod larwm yn canu, er enghraifft, canfod rhywun yn torri i mewn i’r cerbyd, a'i rybuddio drwy ddefnyddio neges llais a neges testun.

Arloesol o Ddiogelu Cerbydau

Y Brifysgol

Daeth HELP Cymru â Centel a Chanolfan Peirianneg Cynhyrchion Electroneg (CEPE) at ei gilydd ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae CEPE yn Ganolfan Rhagoriaeth achrededig Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer Technoleg a Chydweithrediad Diwydiannol (CETIC). Roedd y gwaith yn golygu cynllunio system larwm gymhleth yn cynnwys dwy uned yn rhedeg yn annibynnol ar fatri. Roedd y ddwy uned yn cynnwys system fewnol yn defnyddio technolegau megis cyfathrebiadau GSM, RF, cynllun cylched datgeliad amlsynhwyrydd ar yn rhedeg ar bwer isel.. CEPE ddarparodd yr holl wasanaethau yn ystod holl gyfnodau cynllunio’r System Larwm Cerbydau o ddethol a gwerthuso’r technolegau priodol ac amlinelliad o’r fanyleb i gynllunio ac adeiladu prototeip yr unedau. Roedd angen datblygu atebion electroneg isel eu pris isel a'u defnydd o ynni ar gyfer yr unedau mewnol hyn a datblygu cod C mewnol fyddai'n prosesu , derbyn a throsglwyddo negeseuon testun i ffôn symudol, ac i gyfosod negeseuon llais priodol ac i weithredu swyddogaethau larwm. Cynlluniwyd y byrddau cylched printiedig (PCB) ar y cyd gyda thîm cynllunio mecanyddol y cleient er mwyn sicrhau bod maint corfforol a gwedd y prototeip o'r cynnyrch terfynol yn hwyluso'r gwaith o'i brofi yn y farchnad. Mae’r prototeip gweithiol wedi’u brofi’n helaeth mewn cerbydau ac yn cwrdd â holl ofynion y targedau.

Y Canlyniadau

Canmolodd Keith Morris, y Cyfarwyddwr, HELP Cymru a CEPE drwy ddweud: “Rydyn ni’n credu bod VSS yn cynnig un o’r cysyniadau cynnyrch mwyaf soffistigedig a mwyaf cystadleuol sydd ar gael yn unrhyw le i’n cwsmeriaid. Roedd angen arbenigedd technegol nad oedden ni'n gallu ei ddarparu. Yn ffodus, yn CEPE, rydyn ni wedi gallu cael defnydd o wybodaeth briodol i ddatrys y broblem. Mae cyfraniad CEPE i ddatblygiad cysyniad ein cynnyrch ynghyd â’r arian drwy gynllun HELP Cymru wedi bod yn hanfodol”.

< Back to Case Studies

Help WalesHelp Wales LogoObjective 1 Funding