|
Prifysgol Caerdydd yn llwyddo i ddarparu cymorth i MaddoxY CwmniMae cwmni cynllunio, Maddox Design wedi creu amrywiaeth o gefnau cadeiriau sy’n addas i gelfi swyddfa, cadeiriau olwyn a seddau cerbydau modur. Mae Maddox, sydd wedi eu lleoli yng Nghas-gwent, wedi datblygu cefn cadair arloesol sy’n cynnwys cymorth cynnal y meingefn. O gofio ei fod yn costio £500 miliwn y flwyddyn i gyflogwyr Prydain, problem gyda’r cefn yw un o brif achosion absenoldeb o’r gweithle a chaiff cadeiriau gwael eu beio gan amlaf. Eglurodd Nick Williams o Maddox, "cynlluniwyd y gadair i annog ymddaliad da. Fe wnaethon ni ymgynghori â therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion ac ergonomwyr am y cynllun ac rydyn ni wedi creu cefn cadair sy’n annog ymddaliad da ac eistedd iach”.
Uchod: Nick Williams o Maddox Design gyda model wrth raddfa o brototeip o’r cefnau cadeiriau chwyldroadol.
Y BrifysgolAr y dechrau, aeth Maddox Design â phrototeip wedi ei gerfio â llaw at Brifysgol Caerdydd, drwy HELP Cymru. O’r model hwn, cynhyrchwyd data CAD drwy beirianneg wrthdroi (RE) yn labordy metroleg MEC. O’r data hwn, roedd MEC yn gallu creu tair ffurf ar y cefn cadair ar gyfer Maddox - un ar gyfer cadeiriau swyddfa a dwy arall ar gyfer cadeiriau olwyn. Yna, adeiladwyd prototeipiau o bob cynllun ar EOS P700 MEC a all adeiladu modelau hyd at 700mm x 580mm yn uniongyrchol o ddata CAD. “Roedd safon a chywirdeb y prototeipiau’n ardderchog”, dywedodd Nick, “roedden nhw’n ein galluogi i arddangos y cymorth arloesol a’r pethau y mae’r cefn cadair yn gallu ei wneud”. Y CanlyniadauMae cynhyrchwyr cerbydau modur, celfi swyddfa a gofal iechyd Ewrop ac America wedi gweld y cefn cadair a gynhyrchwyd yng Nghanolfan Cynhyrchu Peirianneg (MEC) Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Ar ôl iddo ddychwelyd o America, roedd Nick Williams wrth ei fodd gyda’r ymateb cadarnhaol i’r modelau.“Profodd rhinweddau esthetig ac ymarferol y prototeipiau a gynhyrchwyd gan MEC i fod yn werthfawr iawn wrth geisio sicrhau gwerthiant” dywedodd. “Roedd cydweithio gyda MEC hefyd yn ein galluogi i ddenu arian gan HELP Cymru, a thrwy hynny ostwng ein costau yn y cyfnod tyngedfennol hwn o 50%”. Ar hyn o bryd mae Maddox Design wrthi’n mireinio’r cefn yn barod i’w gynhyrchu gan Ergonamics, ei chwaer gwmni sydd newydd ei sefydlu yng Nghwmbrân. |
![]()
|