Looking for Local Business Support - Then Click Here

Canlyniadau Allweddol Gwerthusiad Annibynnol HELP Cymru

Roedd y gwerthusiad yn ystyried prosiectau a ymgymerwyd yn y meysydd Amcan 1 canlynol:

Pie chart of Objective 1 areas

dd y prosiectau gyda Mentrau Bach i Ganolig (SME) yn amrywio mewn gwerth o £30,875 i £580 a chyfartaledd gwerth y prosiectau yn £6,683.

Adborth buddiolwyr SME

Defnyddioldeb y Cymorth

Roedd 68% o’r MBC yn ystyried bod y cymorth a dderbynion nhw yn ardderchog. Roedd 18% yn ei ystyried yn dda iawn . Roedd hwn yn ganlyniad arwyddocaol yn bod canran uchel o gleientiaid yn fodlon gyda’r cymorth a dderbyniwyd gan HELP Cymru.

Perthnasedd y Cymorth i’r angen

Canlyniad arwyddocaol arall oedd bod 86% o’r MBC yn ystyried bod perthnasedd y cymorth a dderbyniwyd yn dda iawn neu’n ardderchog. Cyngor ac Ansawdd y Cymorth Roedd 78% o’r MBC yn ystyried bod y cyngor ac ansawdd y cymorth a dderbyniwyd yn dda iawn neu’n ardderchog.

Gwerth am Arian

Roedd 79% yn ystyried bod y prosiect yn dda neu’n ardderchog. Y ffaith bod MBC wedi cyfrannu 50% tuag at gost y prosiect oedd y rheswm allweddol dros fod yn fodlon gyda’r prosiect.

Allbwn MBC

Trosiant

Dywedodd 59% o’r ymatebwyr bod y cymorth a dderbyniwyd gan HELP Cymru wedi golygu cynnydd yn nhrosiant y busnes.

Swyddi

Dywedodd 59% o’r ymatebwyr bod y cymorth a dderbyniwyd gan HELP Cymru wedi golygu swyddi newydd a bod swyddi wedi eu diogelu.

Cynhyrchion Newydd

Dywedodd 55% o’r ymatebwyr bod prosiect HELP Cymru wedi golygu bod nwyddau newydd yn cael eu cynhyrchu. Datblygodd rhai prosiectau fwy nag un cynnyrch felly, ar gyfartaledd roedd HELP Cymru yn fodd i ddatblygu un cynnyrch ar gyfer pob cwmni yn y rhaglen.

Cynnydd ym muddsoddiad Y&D (R&D)

Cadarnhaodd 31% o’r MBC y cysylltwyd â nhw bod cynnydd wedi digwydd ym muddsoddiad Y&D o ganlyniad i’w prosiect HELP 2 Cymru a chyfartaledd y gwariant fesul cwmni ar Y&Dwedi cynyddu £68,700.

Cyfranogwyr y Sector

Datblygiad Personol / Proffesiynol

Teimlai’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr bod prosiect HELP Cymru wedi cyfrannu’n dda iawn neu’n ardderchog at eu datblygiad personol / proffesiynol

Profiad o weithio gyda MBC & Pherthnasedd Gwaith

Dywedodd pob academydd a holwyd eu bod wedi mwynhau cydweithio gyda’u cwmnïau unigol a bod eu gwaith yn ategu anghenion y MBC.

Rheolaeth y Rhaglen

Dyfarnodd y rhan fwyaf o academyddion a holwyd fod yr agwedd hon o’r prosiect yn ‘ardderchog’. Roedd hyn yn glod i Brifysgol Morgannwg oedd wedi buddsoddi amser ac adnoddau sylweddol yn rheolaeth dau gyfnod HELP Cymru.

Partneriaid Strategol, Cyfeiriol & Cynnal Busnes

Perthnasedd a defnyddioldeb y cymorth

Prif ganfyddiad y budd-ddeiliad oedd bod y cymorth yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i MBC yng Nghymru. Roedd y gallu i gynnig cymorth ehangach na dim ond trosglwyddo technoleg a chynhyrchu, yn agwedd gwerth ychwanegol allweddol. Nodwyd yn benodol bod gallu’r prosiect i gynnig ymchwil i’r farchnad a chymorth archwilio yn wasanaeth gwerthfawr i fusnesau micro ac i MBC gan ehangu eu dealltwriaeth o fanteision masnachol gwaith dichonolrwydd o’r fath.

Cydberthynas SAU a’r MBC yng Nghymru

Roedd y budd-ddeiliaid a holwyd yn gadarnhaol iawn am gyfraniad HELP Cymru i ddatblygu perthynas rhwng SAU a MBC yng Nghymru. Teimlai rhai bod y prosiect yn arloesol ac ‘o flaen ei amser’. Roedd eraill yn cydnabod bod HELP Cymru wedi cyfrannu at y camau sylweddol a wnaed i sicrhau cydweithredu rhwng SAU a’u staff academaidd. Nodwyd cynnydd cadarnhaol yn y sialens sylweddol i gael MBC i newid eu canfyddiad o fuddsoddi mewn Y&D. Mae llawer yn ystyried hyn yn broses hir dymor ac un sydd angen sylw a buddsoddiad parhaus ar draws Cymru.

<< Yn ôl

Help WalesHelp Wales LogoObjective 1 Funding