Looking for Local Business Support - Then Click Here

Camau Prifysgol Cymru, Bangor i gynorthwyo Conwy Valley Systems

Y Cwmni

Mae Conwy Valley Systems Limited (CVS) a sefydlwyd ym 1997 wedi datblygu'r system petrograffeg digidol integredig cyntaf o’i math yn y byd, PETROG, sy’n cyfuno meddalwedd arloesol â’r caledwedd diweddaraf. Wedi eu lleoli yn Llandudno. eu prif gleientiaid yw BP, a'r cwmnïau olew cydwladol, yn y Dwyrain Canol yn bennaf a Gogledd a De America. Mae PETROG yn integreiddio sgil adnabyddiaeth weledol y petrograffydd â gallu cyfrifiaduron i brosesu delweddau.

Dywed Barrie Wells, Rheolwr Gyfarwyddwr CVS: ‘Unwaith bu Petrograffeg yn un o'r arfau pwysicaf i ddaearegwr mewn gwaith archwilio, ond yna trodd rhai'n ei erbyn am ei fod yn para i fod o natur ddisgrifiadol. Mae PETROG yn dyrchafu gwyddorau petrograffeg i'r oes ddigidol ac felly'n helpu i'w ailsefydlu fel cam buddiol, ac yn wir hanfodol, o'r broses o archwilio a datblygu.’

Prifysgol Cymru, Bangor

Y Brifysgol

Bangor, a fe fuon nhw'n cyfeirio eu harbenigedd mewn dyfeisiadau micro-electroneg i wella'r gwasanaeth oedd ar gael i'r petrograffwyr. Nid yn unig mae'r ddyfais a ailgynlluniwyd yn gwella cywirdeb a safon y rheolaeth, ond mae hefyd yn gallu ailadrodd yr un symudiadau.Wrth wneud y gymhariaeth rhwng y ddyfais hon a'i rhagflaenydd fe'i disgrifiwyd fel y gwahaniaeth rhwng y prosesydd geiriau a'r teipiadur electroneg. Yr hyn sydd yn y teclyn "Stepiwr Cam wrth Gam/Stepper Stage" yw dau ysgogydd mudiant llinol bach cain iawn wedi eu gosod i reoli lleoliad ar echelinau X-Y. Gellir hawlio manylder ac ailadrodd symudiadau heb ddefnyddio synwyryddion adborth. Rheolir y lleoliad drwy feddalwedd a llygoden y cyfrifiadur a gellir ei sefydlu drwy raglen i sefydlu'r lleoliad absoliwt neu gymharol.

Y Canlyniadau

Roedd y cyd-brosiect yn gwbl hanfodol i barhad cynnyrch PETROG a thrwy gyfrwng blaengaredd IDB fe wnaed gwelliant syfrdanol i'r cynnyrch sydd wedi achosi iddyn nhw lamu ymlaen yn y farchnad. Yn ôl Barrie Wells, 'Roedd CVS yn methu gweld y ffordd ymlaen. Gwrthododd y cwmnïau electroneg masnachol y cyfle i geisio datblygu stepiwr cam wrth gam am fod gormod o risg dechnolegol i'r gwaith. Dim ond drwy ymyrraeth HELP Cymru a'r cyfle i weithio gyda IDB yr achubwyd y cyfan o gynnyrch PETROG'. Yn y pen draw, nod Barrie, ynghyd a'r tîm bychan ond hynod brofiadol yn CVS, yw ymestyn ymhellach i'r farchnad fyd-eang o'u canolfan yng Ngogledd Orllewin Cymru.

< Back to Case Studies

Help WalesHelp Wales LogoObjective 1 Funding


Prifysgol Cymru, Bangor