Looking for Local Business Support - Then Click Here

APCC yn helpu Brace's i godi lefel eu rheolaeth

Y Cwmni

Mae Brace's Bakery Ltd sydd wedi ei leoli yng Nghrymlyn wedi bod yn bobwyr o safon dros 100 mlynedd. Yn ddiweddar, mae wedi buddsoddi’n drwm mewn poptai wedi eu cynllunio’n benodol ar gyfer y cwmni mewn proses awtomataidd. Mae cwmni Brace, ac o ganlyniad lefel ei gynhyrchu, wedi tyfu’n gyflym i gwrdd â gofynion cynyddol ei gwsmeriaid. Er bod uwch-reolwyr y cwmni yn ystyried bod ansawdd yn bwysig, y teimlad oedd bod yr ymdrech i gynhyrchu mwy yn effeithio ar yr ymdrech i gynnal ansawdd yn ystod y broses gynhyrchu. Felly, cafwyd sefyllfa ddifyr lle gallai maint y cyflenwad fod mewn peryg o fygwth yr ansawdd; roedd yn hanfodol cael hinsawdd gwaith newydd.

Braces Bakery

Y Brifysgol

Daeth HELP Cymru â’r cwmni ag Ysgol Fusnes Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (APCC) at ei gilydd ac fe gyd-ymgymeron nhw â phrosiect arloesol triphlyg ac ailwampiwyd arferion gwaith Brace yn llwyr, yn strategol ac yn weithredol. Ailwampiodd y prosiect cyntaf arferion gwaith y cwmni. Gan fod gan y cwmni ddau safle, roedd angen i Brace fonitro a rheoli’r sefydliad yn fwy cadarn. Yn flaenorol, roedd y rheolwyr wedi gallu cyfathrebu’n uniongyrchol â’r adnoddau cynhyrchu; felly dyfeisiodd ail brosiect HELP Cymru system newydd a oedd yn darparu gwybodaeth a fedrai gael ei haddasu ar gyfer unrhyw ddarpar newid yn y cwmni. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio dangosyddion gweithredol. Roedd y trydydd prosiect yn darparu cynlluniau gweithredu (staff yn bennaf) a chynlluniau wrth gefn ar gyfer yr adnoddau cynhyrchu newydd a’r prosesau cynhyrchu newydd.

Y Canlyniadau

Roedd HELP Cymru yn hapus i ariannu’r newid sylweddol hwn ym mhrosesau rheolaeth cwmni mor llwyddiannus lleol. Dywedodd Scott Richardson, y Cyfarwyddwr Gwerthiant & Marchnata, "Helpodd APCC ni i ddatblygu ein popty newydd sydd newydd ei lansio. Addaswyd dulliau proffesiynol academaidd i amodau ein diwydiant a’u trosglwyddo’n glir a phroffesiynol. Nid dyma’r tro cyntaf i APCC gael ei ddefnyddio o fewn ein busnes ac eisoes, rydyn ni’r trafod gyda’r Ysgol Fusnes a swyddogaethau eraill yn y Brifysgol, ddulliau o ddatblygu ein strategaethau busnes yn unol â’n gweledigaeth.”

< Back to Case Studies

Help WalesHelp Wales LogoObjective 1 Funding


APCC